Yn arbenigwyr teithiau grŵp ers 1965, mae Rayburn Tours yn fusnes teuluol annibynnol sy’n ymroddedig i greu teithiau rhyngwladol wedi’u teilwra ar gyfer grwpiau. Maent yn arbenigo mewn Teithiau Cyngerdd ar gyfer pob math o gorau ieuenctid ac oedolion gyda’r gobaith o ysbrydoli grwpiau i chwilio am anturiaethau newydd ac i groesawu diwylliannau newydd.

Mae eu tîm Teithiau Cyngerdd yn cynnwys cerddorion, ieithyddion a chyn-athrawon sy’n frwdfrydig am greu cyfleoedd perfformio rhyngwladol cofiadwy ar gyfer pob math o gorau ieuenctid ac oedolion. Gan gynnig amrywiaeth o leoliadau ysbrydoledig mewn llu o gyrchfannau ledled y byd, o’r DU ac Ewrop i ymhellach i ffwrdd, maent yn teilwra pob taith i fodloni gofynion penodol pob grŵp.