Dechreuodd GGRC 2018 gyda pherfformiad anffurfiol yng Nghastell Caerdydd a daeth yr ŵyl i’w darfod gyda gwledd o ddeintyddion cerddorol mewn ac o gwmpas un o atyniadau diwylliannol gorau’r DU – Canolfan Mileniwm Cymru.
Côr y Corau – Côr Heol y March (Wales)
Y Panel Beirniaid
Darllen mwy am banel y beirniaid
Cyrhaeddodd GGRC mewn steil drwy groesawu corau o Dde Affrica a’r Wcráin yn ogystal â Chymru a’i chymydog, Lloegr i gymryd rhan yn yr Ŵyl gyntaf un. Drwy gymysgedd dawnus o gystadlaethau, cyngherddau a pherfformiadau stryd, plesiodd GGRC 2018 amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd a darparu gwledd o driniaethau cerddorol mewn rhai o leoliadau mwyaf eiconig Caerdydd, Prifddinas Ieuengaf Ewrop.
Yn awyddus i arddangos popeth sydd gan ein mamwlad i’w gynnig, estynnwyd gwahoddiad i’r corau rhyngwladol mynychu’r Croeso Mawr Cymreig. I’r rhai oedd yn ddigon dewr i wynebu’r glaw, cychwynnodd y digwyddiad yng Nghastell Caerdydd cyn symud i Gapel y Tabernacle – lleoliad darllediad cyntaf rhaglen deledu grefyddol y BBC, Songs of Praise – lle’r oedd côr lleol, Côr y Gleision, yn aros yw’n croesawu gyda detholiad o ganeuon ac emynau Cymreig.
Wedi cyfle i ymlacio a chymdeithasu, dechreuodd y paratoadau ar gyfer y Gyngerdd Agoriadol a welodd corau o Dde Affrica, Wcráin a Lloegr yn diddanu cynulleidfa lawn. Codwyd flas ar gyfer y gystadleuaeth a oedd i ddod!
Ar ddydd Sadwrn, cystadlodd wyth côr ar draws pedwar categori yn Neuadd orlawn Hoddinott y BBC. Yn y nos, aeth Côr y Cwm, Côr Ieuenctid KZN Midlands, Côr Glaneathwy, Côr Heol y March a Chôr Siambr Chanteuse – y pum côr oedd wedi derbyn y mwyaf o bwyntiau ar draws yr ŵyl – benben i ennill Tlws Syr Karl Jenkins yng Nghystadleuaeth Côr y Corau.
Ar y diwrnod olaf, manteisiodd y corau ar ddosbarth meistr gydag ein beirniaid rhyngwladol – Paul Mealor, Bernie Sherlock a Maria Gamborg Helbekkmo – cyn perfformio am y tro olaf ar ein Cylchdro Corawl. Daeth y digwyddiad hwn a chynulleidfa a chefnogwyr newydd i’r corau wrth iddynt berfformio i gannoedd o dwristiaid o dan arwydd dwyieithog trawiadol Canolfan Mileniwm Cymru, y Senedd, Mermaid Quay a Phlas Roald Dahl.
Yn sicr, llwyddodd GGRC i gadw ei addewid i hyrwyddo rhagoriaeth artistig, dealltwriaeth fyd-eang, cyfeillgarwch ac ewyllys da trwy gerddoriaeth gorawl ac yn i ddiweddi bob dim, rhoddwyd profiad cerddorol i’w chofio a’i drysori am byth.
Enillwyr Gŵyl 2018