
Croesawch her gorawl newydd a manteisiwch ar gynigion cyw cynnar Gŵyl Gorawl Ryngwladol Cymru 2019. Cyflwynwch gais cyn 01 Mehefin 2018 ac fe gewch 25% o ostyngiad ar eich cais.
Cyflwyno Cais yma
Wedi’i lansio yn 2017 gan y Cyfarwyddwr Artistig Eilir Owen Griffiths a’i dîm, denodd yr ŵyl gyntaf dros 400 o gystadleuwyr o rai o gorau penna’r byd i gystadlu yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd. Ymhlith y cystadleuwyr oedd Côr Ieuenctid KZN Midlands o Dde Affrica, Corws Plant Cenedlaethol Wcráin, “Pearls of Odessa” a Chôr Glanaethwy, côr a lwyddodd i gyrraedd rownd derfynol ‘Britain’s Got Talent’.
Dywedodd Eleri Roberts, arweinydd Côr Heol y March, Pencampwyr Cystadleuaeth Côr y Corau yn 2018 “ Fe wnaethom fwynhau ein hamser yng Ngŵyl Gorawl Ryngwladol Cymru. Roedd yr ŵyl wedi ei drefnu’n dda iawn – fel watsh!. Roedd yr awyrgylch yn gyfeillgar ac yn heintus. Roedd corau o wahanol wledydd yn uno drwy gân ac yn creu atgofion gwerthfawr ond roedd hefyd yn gyfle gwych i ddysgu oddi wrth ein gilydd. Roedd ennill Cystadleuaeth Côr y Corau yn eisin ar y gacen.”
Ers ei sefydlu yn Haf 2017, mae’r ŵyl wedi derbyn cefnogaeth gan gerddorion a chydweithwyr dylanwadol iawn, gan gynnwys Syr Karl Jenkins; yr enillydd Brit a Brit Clasurol, Paul Mealor; Enillydd Grammy, Christopher Tin; arweinyddion rhyngwladol Andrew Van Der Merwe a Ralph Allwood; a’r soprano arbennig o Gymru, Elin Manahan Thomas.
Wrth sôn am yr ŵyl dywedodd y Cyfarwyddwr Artistig, Eilir Owen Griffiths “Roedd yr ŵyl gyntaf yn llwyddiant ysgubol. Braf oedd gweld amrywiaeth eang o gorau o bob cwr o’r byd yn dod i Gaerdydd ac yn ymroi i amserlen lawn o ddigwyddiadau corawl. Rydym eisoes wedi dechrau cynllunio Gŵyl 2019 ac rwy’n edrych ymlaen at rannu’r holl ddatblygiadau cyffrous gyda chi. Bydd 2019 hyn yn oed yn fwy na 2018.”
Bydd llinyn gystadleuol Gŵyl 2019 yn cael ei gynnal yn Neuadd Hoddinott Canolfan Mileniwm Cymru ac mi fydd yn cynnwys pum categori: Côr Cymysg; Côr Un Llais (SSAA/ TTBB); Categori Agored; Lleisiau Ifanc (dan 25 oed); Categori Plant. Bydd y pum côr sydd wedi ennill y pwyntiau uchaf ar draws yr ŵyl yn mynd benben yng Nghystadleuaeth Côr y Corau, lle bydd yr enillwyr yn derbyn tlws Syr Karl Jenkins. Law yn llaw â’r gystadleuaeth bydd rhaglen gyffrous o gyngherddau, perfformiadau anffurfiol a digwyddiadau cymdeithasol.
Peidiwch oedi, gwthiwch ffiniau rhagoriaeth gorawl a gwnewch gais ar gyfer Gŵyl Gorawl Ryngwladol Cymru 2019.
Gweler manylion ar sut i gyflwyno cais yma