Gŵyl gorawl sy’n cael ei rhedeg gan bobl sydd yn canu mewn côr – y fformiwla berffaith i warantu Gŵyl wych!

Yn ymroddedig i hyrwyddo cyfeillgarwch a chynwysoldeb, ganwyd Gŵyl Gorawl Ryngwladol Caerdydd allan o angerdd am gerddoriaeth gorawl, gweledigaeth i ddod â’r gymuned gorawl ryngwladol i Gymru a’r awydd i ddathlu cerddoriaeth gyda’n gilydd.

Cynhaliwyd yr Ŵyl gyntaf ym mhrifddinas fyrlymus Cymru, Caerdydd a gwelwyd corau o Dde Affrica, Wcráin, Cymru a Lloegr yn cystadlu am Dlws Syr Karl Jenkins a theitl Côr y Corau.

Ers sefydlu, rydym wedi bod yn falch o groesawu corau o bob cwr o’r byd.

 


Cyfarwyddwr Artistig

Eilir Owen Griffiths

Tim yr Ŵyl

  • Meilyr Hedd ap Ifan
  • Carys Davies
  • Angela Owen-Griffiths
  • Gwawr James
  • Carwyn Thomas Wycherley
  • Gwenno Williams